RootsWeb is funded and supported by
Ancestry.com and our loyal RootsWeb community.
Learn more.
About Us | Contact Us | Copyright | Report Inappropriate Material
Corporate Information | Privacy | Terms and Conditions | CCPA Notice at Collection
Coed y Pry - Cartref Llenor,
Awdur, Hanesydd a Chymwynaswr Genedl |
Cyflwynir y llyfr hwn i rieni Cymru, lle mae gwaith a serch yn gwneyd y cartref yn lân a sanctaidd; ac i blant Cymru, a gofiant am eu cartrefi annwyl byth.
I.--DOLWAR FECHAN,--CARTREF
EMYNYDDES.
Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan, yn un o'r hafannau
bychain gwyrddion sydd rhwng Llanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y
Fyrnwy. Gorsaf Llanfyllin yw'r agosaf. Ganwyd Ann Griffiths
Ebrill 1776, bu farw yn Awst 1805.
MAP
II.--TŶ COCH,--CARTREF
PREGETHWR.
Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell
Carn Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion. Ganwyd
Robert Thomas (Ap Fychan) yma, mewn tlodi mawr; a chyn marw,
Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn athro
duwinyddol.
MAP
III.--GERDDI BLUOG,--CARTREF
BARDD.
Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a
rhamantus, y mae'r Gerddi Bluog. O Harlech neu Lanbedr yr eir
yno. Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad,
archddiacon Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y
Salmau. Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei
fedd ym Maentwrog.
MAP
IV.--PANT Y CELYN,--CARTREF PER
GANIEDYDD.
Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y
Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno Ganwyd "per ganiedydd Cymru,"
gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr 11, 1791.
MAP
V.--BRYN TYNORIAD,--CARTREF
GWLADGARWR.
Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn
agos i orsaf Drws Nant. Y mae'r TŸ Croes ar gyfer yr orsaf
agosaf yng nghyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd.
Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852.
MAP
VI.--TREFECA,--CARTREF
DIWYGIWR.
Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng
ffrydiau Wysg a Gwy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,--lle
wnawd gan Howel Harris yn "gartref" cymundeb o dduwiolion
diwyd.
Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21,
1773.
MAP
VII.--CAER GAI.--CARTREF
UCHELWYR.
Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn
Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy. Yr oedd y Fychaniaid, hen
deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith.
Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland
Fychan. Yn amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a
Gwerfyl dipyn yn gynt.
MAP
VIII. --CEFN BRITH,--CARTREF
MERTHYR.
Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn
Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf Ganwyd John Penri yn y lle
tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef farwolaeth fel bradwr, Mai 29,
1593.
MAP
IX. --GLAS YNYS,--CARTREF BARDD
CWSG.
Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o'r tipyn gwastadedd sy'n
gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a'r môr. O Harlech yr
eir yno gyntaf. Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr Gweledigaethau
Bardd Cwsg.
Treuliodd ei fywyd yma, o'i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734,
yn Llanfair gerllaw. Y mae ysgriflyfrau o'i waith yn perthyn i
eglwys Llanfair.
MAP
X. --TŶ'R FICER,--CARTREF BARDD
MOES.
Y mae Tŷ'r Ficer yn hen dref Llanymddyfri. Y mae'n awr yn
adfeiliedig iawn. Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys
Prichard, "yr Hen Ficer," a anwyd yn 1579, ac a fu farw yn
1644.
MAP
XI. --Y GARREG WEN,--CARTREF
CANWR.
Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorthmadog, y mae amaethdy'r
Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod
rhag gwynt y môr.
Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon Codiad yr
Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen.
MAP
XII. --TŶ DDEWI,--CARTREF
SANT.
Saif Tyddewi ar lan môr gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir
Benfro. Ar draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar
bymtheg o orsaf Hwlffordd. Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw.
Yn ol pob tebyg, cenhadwr dros Grist at baganiaid rhannau
gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant.
Yr oedd yn byw rywbryd rhwng 450 a 600.
MAP
OL NODYN
Sylwadau pellach gan OME
*Bydd dilyn y cyswllt MAP yn mynd â chi i fap OS sy'n dangos (yn fras) safle'r cartref. Mae'r mapiau ar we-fan cwmni Multimap.com. I ddychwelyd i'r ddalen yma defnyddiwch y botwm "nol" (back) ar eich porwr.