Lliadiardau Hanes Methodistiaid Dwyrain Meirion

PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - LLIDIARDAU

Nid eglwys y Llidiardau, ond yn hytrach eglwysi Cwmtirmynach a Chapel Celyn yw y rhai agosaf mewn henafiaeth i eglwys Talybont yn y rhan hon o’r wlad rhwng y Bala ar Migneint, ond y mae yn terfynu a Thalybont, ac yn ffurfio y rhan uchafo Waen y Bala, fel y mae Talybont yn ffurfio rhan isaf o’r cwmwd hwnw. Heblaw hyny, yma yr adeiladwyd capel gyntaf o’r holl ardaloedd oddieithr ardal y Parc. Adeiladwyd capel cyntaf y Parc, a hen gapel y Llidiardau oddeutu yr un amser. Y crefyddwyr cyntaf y cawn eu hanes yn yr ardal hon, ydynt John Roberts, Caerlion, a Sarah Roberts ei wraig, tad a mam yn nghyfraith y Parch. Robert Thomas, Llidiardau. Arferent hwy fynychu y seiat a moddion eraill yn y Bala yn amser John Evans a Mr. Charles. A phan y dechreuwyd cael pregethu a seiat i Benbryn fawr, yn ardal y Celyn cawn iddynt ymuno a’r achos yno, ond parhaent fel crefyddwyr yr ardaloedd hyn yn gyffredin i ddyfod i’r cymun i’r Bala bob Sul - pen mis. Trwy ddylanwad Mr. Charles cafwyd ganddynt gychwyn Ysgol Sabbothol yn eu tŷ. Deuai cyfeillion o’r Bala yno iw chadw, ac Evan Evans y Cenhadwr oedd un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn y gwaith da hwn. Bu yr ysgol yno, meddir, am gryn dymhor yn cael ei chynal weithiau yn y tŷ, ac weithiau yn yr ysgubor. Codwyd ysgol arall mewn ffermdy o’r enw Tanymynydd. Cychwynwyd yr ysgol hon gan. Richard Edwards, Bala, i ddysgu hen bobl i ddarllen. Trwy y moddion hyn dysgodd pedwar neu bump ddarllen yn dda, o rai dros haner cant oed, a daeth y rhai hyny yn grefyddwyr ffyddlon o hyny hyd ddiwedd eu hoes. Profai yr Ysgol Sabbothol yn y cyfnod hwnw yn foddion gras mewn modd neillduol. Unfrydol yw y dystiolaeth a geir am y modd y bendithiwyd llafur nifer o frodyr o’r Bala gyda’r Ysgol Sabbothol a’r cyfarfodydd gweddiau yn ardaloedd Penllyn, ac yr oedd Richard Edwards yn un o’r rhai ffyddlonaf o honynt oll.

Yn ngwyneb y llwyddiant a welai, meddyliodd Mr. Charles y byddai yn well cael capel yn yr ardal. Ond nid oedd y crefyddwyr goreu yn y cyffiniau yn addfed ar y cyntaf i’r fath anturiaeth. Yr oedd Hugh Roberts, Tynypant, un o flaenoriaid cyntaf Talybont, yn byw ar derfyn ardal y Llidiardau, ac yr ydym wedi cofnodi eisoes am ei ffyddlondeb ef gyda’r achos yn Talybont ac yn Tair-felin, ond nid oedd ef yn gweled y byddai o un budd codi capel yn y Llidiardau. Arferai fyned i’r Bala i’r moddion, a chai Mr. Charles gyfle i ymddiddan ag ef ar y mater hwn, ond anhawdd oedd ei enill ef drosodd i bleidio y symudiad hwn. Yr ydych yn ynfydu, meddai wrth Mr. Charles un diwrnod, meddwl am godi capel mewn lle nad oes dim-pobl a ddaw iddo. Gwnewch chwi le, Hugh Roberts, fe ddaw y bobl, ebai Mr. Charles wrtho yntau; ac fe wirwyd geiriau Mr. Charles. Cafwyd lle i adeiladu capel gan y Parch. S. Lloyd, B.A., Plasyndre, a chae bychan iw ganlyn ar brydles o fil o flynyddoedd Yr oedd hyn tua’r flwyddyn 1811. Defnyddid y cae bychan ar y cyntaf i gael bwyd i geffylau y pregethwyr. Wedi hyny arferai un o ffermwyr yr ardal gymeryd y cae, a rhoddi bwyd i geffylau y pregethwyr yn gyfnewid am dano. Erbyn hyn y mae wedi ei neilldio yn fynwent, a llwch amryw o dduwiolion enwog yr ardaloedd a orphwysant ynddi wedi ei gwneyd yn dra chysegredig yn nheimilad lliaws.

Gofalodd rhagluniaeth am ddynion a sêl yn eu calonau i adeiladu y capel yn ngwyneb nad oedd pawb o’r hen grefyddwyr yn egniol. Yr oedd yma hen ŵr crefyddol wedi dyfod i fyw i’r ardal o Ffestiniog, o’r enw Siôn Hugh. Cafodd Mr. Charles yn y brawd hwn ŵr ac ar ei galon gynorthwyo i gael tŷ i Dduw yn yr ardal. Bu ei ddyfodiad yn foddion i hyrwyddo adeiladu y capel. A pheth sydd yn hynod, medd ein hysbysydd, carwyd y defnyddiau, a chasglwyd ato gan bobl ddigrefydd, drwy fod dylanwad Mr. Charles mor fawr yn y wlad. Hwn oedd y capel cyntaf a adeiladwyd yn y broydd hyn.

Ar ol cael capel, yr oedd yr Ysgol Sabbothol ar ychydig grefyddwyr yn ymgynull iddo i addoli. Arferid cael seiat yn Caerlion, ond brodyr o’r Bala fyddai yn dyfod iw chadw, ac nid oedd cysylltiad John Roberts â’r seiat yn fwy swyddogol na’r hyn a gynwysai ei fod yn ŵr y tŷ y cynhelid hi ynddo. Bu yr achos yn y capel am beth amser (am rai blynyddoedd gallem feddwl) heb un blaenor etholedig i ofalu am dano. Yr un a ofalai yn benaf am dano oedd Siôn Hugh.

Ynddengys mai yn y flwyddyn 1815 y dewiswyd blaenoriaid gyntaf yma. Y ddau a ddewiswyd y pryd hyny oedd Robert Roberts, Pencelli, a Thomas Roberts, y Crydd, a dau hynod oeddynt o ran dawn a medr i gario yr achos yn mlaen. Yr oeddynt yn hynod fel gweddiwyr ac fel holwyr yn yr Ysgol Sabbothol. Ymadawodd Thomas Roberts â’r ardal cyn ei farwolaeth, ond bu Robert Roberts yn gwasanaethu y swydd y dewiswyd ef iddi am 53 o flynyddoedd, sef hyd ei farwolaeth y dydd olafor flwyddyn 1866, yn 84 mlwydd oed. Heblaw ei fod yn ŵr o ddylanwad yn ei ardal ei hun, yr oedd efe yn un o flaenoriaid amlwg y Cyfarfod Misol, ac yn un a ddatganai ei farn ei hun ar wahanol faterion pan na byddai yn gallu cydweled ag ambell i symudiad yn y sir. Mab iddo ef oedd y diweddar Robert Roberts, Bronderwen, yr hwn hefyd a ddewiswyd yn flaenor i gydweithio a’i dad yn Llidiardau, cyn ei symudiad i Sir Ddinbych. Yr oedd hefyd yn dad-yn-nghyfraith i’r Parch. John Williams, Tynycoed, Llandrillo, ac yn daid i’r Parch. Edward Roberts, Venedocia, Ohio.

Yn lled fuan ar ol dewisiad y ddau frawd uchod, dewiswyd John Roberts, Caerlion, yn flaenor, a chafodd yntau ddangos ei ffyddlondeb yn rhan olaf ei oes trwy wasanaethu fel blaenor, fel y dangosai ei ffyddlondeb fel noddwr cyntaf yr achos pan nad oedd yn flaenor. Cyn dewis un blaenor chwanegol, daeth dau bregethwr adnabyddus ac enwog i fyw i’r ardal, sef Dafydd Rolant a Robert Thomas. Daeth y blaenaf i fyw i’r Pentre yn yr ardal hon yn 1825, wedi bod yn byw am un flwyddyn yn Nantbudr, Trawsfynydd, ac am ddwy flynedd arall yn y Faen Filldir yn y plwyf hwnw. Pan y symudodd i’r Pentref, wrth odreu mynydd Nodol, y soniai mor fynych am dano yn ei bregethau, yr oedd yn llawn ddeg ar hugain oed, ac yn pregethu bellach ers oddeutu deng mlynedd, wedi bod yn yr ysgol neu yr athrofa, fel y galwai yr ysgol y bu ynddi gyda’r Parch. John Hughes. Yr oedd cyn dyfod i ardal y Llidiardau wedi dyfod i sylw fel pregethwr poblogaidd, wedi teithio llawer trwy Dde a Gogledd, a bod yn offeryn i droi eneidiau lawer o gyfeiliorni eu ffyrdd Caffaeliad mawr i eglwys y Llidiardau oedd cael y fath ŵr i berthyn iddi ac iw hadeiladu. Yr oedd yn siampl i’r trigolion mewn pethau cyffredin yn gystal ag mewn pethau ysbrydol. Dywed y Parch O. Jones, B.A., am dano yn ei Gofiant, ei fod yn gystal amaethwr ag odid neb oedd o’i amgylch. Wrth roddi tro dros ei dyddyn, cawn fod pob peth mewn trefn, gan y gofalai yn wastad am gael gwas y gallai ymddiried ynddo, am ei fod ef ei hun yn myned gymaint oddicartref, yr hwn yn wastad a arhosai yn ei wasanaeth am flynyddoedd meithion. Byddai yn brydlon gyda phob peth; pa adeg bynag o’r flwyddyn ydyw y mae yn sicr o fod ar y blaen; byddai wedi hau, cael ei fawn, a’i gynhauaf cyn gynted a neb yn yr ardal. Yr oedd golwg dda ar y tyddyn ac ar bob anifail oedd yn byw arno. Am dano ef ei hun pan äi allan ar hyd y ffarm, ni byddai ymarfer gwneyd nemawr o galedwaith. Ei hoff waith oedd bugeilio y defaid a gofalu am y gwartheg, y goruchwylion a wnai gynt pan yn fachgen yn Cwmtylo. Gwelid ef bob dydd yn myned i roi tro o gylch y defaid, foreu a hwyr, i edrych a fyddai pob un yn ei thiriogaeth briodol, (Cofianf D. Rolanf tud. 83.) Ond pa mor ofalus bynag ydoedd am ei ffarm ac am ei ddefaid, yr oedd ei ofal penaf am y ddiadell fwy ysbrydol a roddwyd megis dan ei ofal yn y Llidiardau, er nad oedd erioed wedi ei alw yn ffurfiol iw bugeilio. Yr oedd yn brydlon iawn gyda’r cyfarfodydd crefyddol. Ar noson y cyfarfod gweddi neu noson y seiat yn yr wythnos, cyrhaeddai ef dŷ’r capel yn mhell cyn yr amser, cyn i neb arall ddyfod; ar foment y tarawai y clock yr awr, os nad cyn hyn, ai o’r tŷ i’r capel. Y mae yn sicr o ddechreu yn yr amser, ni waeth pwy na pha faint fydd yno nac oddiyno. Un gafaelgar mewn gweddi ydoedd, a phregethwr o wreiddioldeb a dawn naturiol uwchlaw y cyffredin, fel yr awgryma y ffaith iw ddarlun gael ei roddi yn y Cenhadon Hedd yn mysg nifer cymharol fychan o brif enwrogion y Cyfundeb oeddynt yn anterth eu nerth tua chanol y ganrif o’r blaen.

I gael symad llawnach am dano, edrychier yn graffar ei ddarlun yn y Cenhadon Hedd a darllener ei Gofiant dyddorol gan ei hen gymydog athrylithgar y diweddar Barchedig Owen Jones, B.A. Pwy all ddweyd y fantais i’r achos yn y Llidiardau fu ei bresenoldeb a’i wasanaeth am 37 mlynedd? Bu farw Chwefror 24, 1862, yn 67 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent y Llidiardau, lle yr oedd eisoes yn gorwedd y Parchn. Lewis Jones a John Thomas, a lle y dodwyd yn fuan ar ei ol gydweithiwr arall o hynodrwydd. Yn mhen oddeutu tair blynedd ar ol Dafydd Rolant, y mae Robert Tomos yn dyfod hefyd i fyw i’r ardal hon. Yr oedd ef yn dra gwahanol i Dafydd Rolant mewn lliaws o bethau, ond yn llawn mor hynod, ac o athrylith ddiamheuol, er yr holl bruddglwyf yr oedd yn ddarostyngedig iddo. Ysgrifenwyd Cofiant iddo yntau gan yr un awdwr trylen, y Parch. O. Jones, B.A., lle y ceir llawer o hanes dyddorol am dano. Ond buddiol fyddai rhoi yma rai o brif ffeithiau ei fywyd. Brodor o Bettws y coed ydoedd, mab Trawsafon, lle ganwyd ef Medi 4 1796. Byddai seiat yn cael ei chynal yn ei gartref cyn ei eni ef, pan nad oedd capel yn Bettws y coed. Dysgodd gelfyddyd o saer-maen, a bu yn dilyn y gelfyddyd hono ar dymhorau ar ol dechreu pregethu. Bu yn gweithio gyda’i frawd William, ar y ffordd fawr i Gaergybi, ac yn adeiladu rhai o’r pontydd geir ar y ffordd hono. Yr oedd yn dechreu pregethu yn y flwyddyn 1820. Yn gynar yn y flwyddyn hono yr oedd John Williams, Dolyddelen, a Robert Ellis Tymawr, dros y Cyfarfod Misol yn cymeryd llais yr eglwys yn y Bettws ar ei achos, pan y caed yr eglwys gydag un eithriad yn bleidiol. Cyn ymadael y noson hono, gofynai Siôn William yn garedig iddo. Pa bryd y doi di acw atom ni i Ddolyddelen i bregethu? Brysia, Robin bach, paid a bod yn hir, pryd y dywedodd Robert Ellis: Peidiwch a thynu y bachgen i dori ei grimogau da Siôn William.

Yn mhen rhai blynyddoedd ar ol dechreu pregethu daeth i daith y Waen, fel y gelwir hi, i bregethu. Ar adeg hon daeth i gydnabyddiaeth a Sarah, merch John Roberts, Caerlion, yr hyn a arweiniodd yn mhen amser iw briodas ef a Sarah, a ddaeth mor adnabyddus fel Sara Tomos. Bu yn byw yn y Bala am tua dwy flynedd ar ol priodi, ac yn cadw ysgol yno am ran o’r tymhor hwnw. Ond y y flwyddyn 1828, symudodd o’r Bala i Tynant, ffarm yr. ochr ddeheuol i fynydd Nodol, y ffarm nesaf ond un i gapel Llidiardau yn nghyfeiriad yr Arenig, yn y gwaelod wrth y nant, ryw ddau led cae o’r hen ffordd sydd yn arwain i Ffestiniog. Dyma ef gan hyny, wedi ymsefydlu yn ardal enedigol ei wraig. Bu yn Tynant am chwe blynedd. Yn y flwyddyn 1834, mewn canlyniad i waeledd ei dad yn nghyfraith, yr hwn oedd bellach yn hen, y mae yn symud o’r Tynant i Gaerlion, hen gartref ei wraig. Ond nid tymhor llwyddianus arno oedd y deuddeng mlynedd y bu yn ffarmio. Nid oedd cystal ffarmwr a Dafydd Rolant, ac o herwydd y terfysg oddifewn a’r tymhestloedd oddiallan, prin y gallai fod yn llawer o arweinydd i’r eglwys. Ond yr oedd rhyw ddyddordeb neillduol ynddo, a llawer o ryw swyn yn ei gymdeithas, ac o wres a bywyd yn ei weinidogaeth. Tua’r flwyddyn 1840, y maeyn symud i’r Pantllwyd, gerllaw Llan, Ffestiniog, ac yn mhen pedair blynedd y mae yn symud i dŷ capel Peniel, a thua’r un adeg daeth yr hen Sara Roberts, ei fam-yn-nghyfraith, atynt i fyw. Ar ol byw tair blynedd ar ddeg yn Ffestiniog, pedair yn Pantllwyd, a naw yn Ty-capel Peniel, y mae yn symud eto yn y flwyddyn 1853 i Waen y Bala. Dilynai ef ei alwedigaeth, a chadwai Sara siop fechan. Yr oedd yn hyfrydwch mawr gan amryw glywed eu bod yn dyfod i’r ardal i fyw. Yr oedd cael dau bregethwr mor hynod yn yr un ardal, yn enwedig gydau gilydd mewn cyfarfod eglwysig, yn amheuthyn na ellir cael ei gyffelyb yn fynych. Nid oedd yn bregethwr mor• boblogaidd a Dafydd Rolant, ond yr oedd yn fwy o lenor ac o ddarllenwr. Cyfansoddodd gryn lawer o farddomaeth yn y mesurau caeth a rhydd, ac yr oedd yn cymeryd dyddordeb mawr mewn hanesyddiaeth a changhenau eraill o lenyddiaeth.


Bydd y llinellau hyn o’r gân Moliant i Haul y Cyfiawnder yn adgofio y rhai a’i clywsant o’i arddull a’i ddull o feddwl

Iesu cadarn, Haul Cyfiawnder,
Dwymodd Moses yn y brwyn,
Rhag ei rynu yn min yr afon,
A rhag i’r Crocodile ei ddwyn
Rhoes hawddgarwch i’r un bychan
Ger bron brenin yr Aipht fawr,
Nes i’r bychan fynd yn llywydd—
Llywydd mwyaf ar y llawr.
 

Neu y rhai hyn o’i Anerchiad i'r Chwarelwyr :—

Tan ddaear gwledydd breision,
Mae glo a thanwydd ddigon,
Yn ein mynyddau ninau’n awr
Mae llechau gwerthfawr cryfion.

Fe wyddir eich rhinweddau
Drwyr Gogledd dir ar Dehau.

Os bydd rhyw efrydd crwca
Ffaeledig ei aeloda,
Y sydd yn byw ar swyddau bach
Gwnant hwyach iddo noddfa.

Dewr astud fel Dirwestwyr
Wir alwad, ywr chwarelwyr,
Rhyw ganoedd maith o honynt hwy
A moddion mwy na meddwyn.

O mynwch, gloddwyr mwynion,
Gael meddiant o Graig Seion,
Sef lesu Grist, yr oesol Graig,
Mae Had y Wraig yn ffyddlon.

Daw dydd i’r llechi gleision
I losgi oll yn wreichion,
Fe gryn, fe naid y bryniau’n awr,
Ar Wyddfa fawr yn Arfon.

Yn llwch y bydd y llechau,
Y bronydd oll a’i bryniau;
A holl wlad Cymru drwyddi draw
Y dydd a ddaw yn fflamau.

0ll yn ddiogel ddigon
Pryd hyn bydd teulu Seion
Mewn tŵr diogel castell clyd,
Pan byddor byd yn wreichion.


Yr oedd ynddo lawer o hynodrwydd ar hyn ellir alw yn ddigrifol, ond yr oedd yn gywir ac yn hollol o ddifrif. Gwerthfawrogid ei ddawn ä’i ddull neillduol gan y rhai mwyaf deallgar, ac y mae ei Gofiant, yn yr hwn y ceir hanes manwl am ei droion digrifol, ei fywyd profedigaethus yn aml, a darlun o hono fel pregethwr, gan law fedrus yr awdwr, yn helaethach a mwy teilwng nag a gafodd aml i bregethwr a ystyrid yn uwch nag ef. Bu farw mewn tangnefedd, Rhagfyr 16, 1866, yn 71 mlwydd oed. Yn y Cofiant, yr hwn a gynwysa sylwadau a wnaed gan Dr. Edwards a Dr. Parry yn ei angladd, ceir darlun rhagorol o hono. Anaml y mae hyd yn nod ein dynion enwog yn cael gwell Cofiant.

Yn 1833, sef yn mhen 5 mlynedd wedi dyfodiad Robert Thomas i’r ardal y tro cyntaf, dewiswyd Robert Roberts, (ieu.,). Pencelli, yn flaenor, a bu yn cydwasanaethu y swydd a’i dad, hyd nes y symudodd o’r gymydogaeth. Yn mhen tair blynedd ar ddeg ar ol hyn, dewiswyd Owen Davies yn flaenor. Yr oedd yn cael ei dderbyn yn aelod o’r Cyfarfod Misol yn y Llidiardau yn mis Mai, 1846, yr un adeg a John Jones, Tyllwyd, a Thomas Humphreys, y Berth, blaenoriaid Talybont. Yr arferiad y pryd hwnw, ac am• amser maith wedi hyny, fyddai derbyn brodyr yn aelodau o’r Cyfarfod Misol pan y deuai y Cyfarfod Misol i’r ardal, neu i ardal gyfagos.

Tua’r amser hwn, rywbryd, y symudodd teulu Frongam, i’r ardal hon i fyw. Yr ydym yn casglu hyn oddiwrth yr hyn a ddywed Dr. James yn ei ysgrif ragorol ar y Parch. Owen Jones, B.A., yn y Geninen am fis Mawrth, 1899. Ganwyd y Parch. Owen Jones ar y 12fed o Hydref, 1833. Pan nad oedd eto ond ryw chwe mlwydd oed, symudodd ei rieni, Mr. a Mrs. Thomas Jones, o’r Weirglodd ddu, Llanuwchllyn, i gymydogaeth Llandderfel i fyw, a chyn hir i gymydogaeth y Llidiardau, yn gyntaf i Lwynrodyn, ac wedi hyny i Frongam. Yr oedd teulu o fath y teulu hwn yn gryfhâd nid bychan i’r achos mewn lle o fath y Llidiardau. Nid pobl gyffredin oedd y rhieni. Fel hyn yr ysgrifena Dr. James am danynt. Ei dad, Mr. Thomas Jones, oedd ddyn crefyddol ar hyd ei oes, i ddechreu gyda’r Annibynwyr ac wedi hyny gyda’r Methodistiaid;. a chan mai helyntion a dadleuon yn nghylch pynciau duwinyddol a barodd iddo wneyd y cyfnewidiad rhaid debygid ei fod yn ddyn o alluoedd naturiol da, ac o ddiwylliad digonol iw alluogi, pan nad oedd eto ond lled ieuanc i ddilyn y cyfryw ddadleuon dyrys, ac i ffurfio barn o’i eiddo ei hun arnynt. Ceir yn ei lwyddiant bydol mawr fel tyddynwr hefyd brawf mai nid dyn diffygiol mewn synwyr ydoedd. Eithr yn fwy fyth ymddengys fod ei fam, trwy yr hon yr oedd Mr. Owen Jones yn garenydd agos i’r teuluoedd adnabyddus Edwardiaid, Llanuwchllyn, yn wraig o alluoedd meddyliol nodedig, yn gystal ag o grefyddolder uchel. (Geninen, Mawrth 1899).

Yr oedd i’r rhieni hyn ddau fab tra theilwng, y rhai a fuont hynod o wasanaethgar i achos crefydd yn eu dydd, sef John Jones ac Owen Jones. Yr ieuengaf a ddaw i’r golwg gyntaf mewn ystyr swyddogol, os nad mewn ystyron eraill hefyd. Derbyniwyd Mr. Owen Jones yn gyflawn aelod pan nad oedd ond 11 oed, ac arferai weddio yn y teulu ac yn yr eglwys ar gynulleidfa yn yr oedran cynar hwnw. Pan yn un ar bymtheg oed, yr oedd yn ddechreuwr canu yn y Llidiardau. Bu yn Athrofa y Bala ddwy waith, y tro cyntaf pan yn bedair ar ddeg oed, a thrachefn pan yn dechreu pregethu. Byddai yn areithio ar ddirwest cyn ei dderbyn yn gyflawn aelod, ac yr oedd yn dechreu ar waith y weinidogaeth pan yn brin ugain mlwydd oed. Yn Nghyfarfod Misol Llandrillo, Gor. 26 ar 27, 1853, Daeth cais o Llidiardau am anfon brodyr yno i ymddiddan ag O. Jones gyda golwg ar iddo ddechreu pregethu. Yn yr un Cyrfarfod Misol caniatawyd iddo fyned i’r Athrofa i’r Bala. Bu, mewn cysylltiad a Chyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd am dros ddeng mlynedd, ac mewn cysylltiad ag eglwys Llidiardau am y rhan fwyaf o’r amser hwnw. Ond y mae y deng mlynedd hyn yn cynwys blynyddoedd ei efrydiaeth yn y Bala a Llundain, ar tymhor y bu yn byw yn y Bala ar ol priodi cyn symud i gymeryd gofal eglwysi Bethesda ar Tabernacl yn Mlaenau Ffestiniog. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth ar ei sefydliad yn Ffestiniog yn 1864, ond ar sail dewisiad Dwyrain Meirionydd. Bu ei yrfa yn hynod o anrhydeddus o hyny allan yn Ffestiniog, Liverpool, a Llansantffraid, ond perthyna hanes ei fywyd cyhoeddus i hanes Cyfarfodydd Misol eraill, ac i hanes y Cyfundeb yn gyffredinol, yn fwy nag i hanes y Llidiardau. Yn unig ystyria eglwys y Llidiardau yn fraint fawr iddi gael yr anrhydedd o godi y fath weinidog defnyddiol, ar fath lenor clodwiw. Bu yn llywydd Cymdeithasfa y Gogledd ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol a gynhalwyd yn Llundain, a chafwyd adroddiad cyflawn o’i araeth ar yr achlysur hwnw mewn mwy nag un o’r papyrau dyddiol. Bu farw yn Llansantffraid yn Mechain, Ionawr 13, 1899, yn 66 mlwydd oed. Pan oedd Mr. Owen Jones yn llafurio i gyrhaedd dysgeidiaeth, yr oedd ei frawd hÿn nag ef, Mr. John Jones, yn ymroddedig iawn gyda’r achos gartref yn y Llidiardau. Ymbriododd a merch y Parch. Dafydd Rolant, a thrwy symudiad ei rieni i Frongam, cafodd ef aros i fyw yn Llwynrodyn. Dewiswyd ef yn flaenor Hydref 13, 1857, yr un noson ag y dewiswyd Mr.Wm. Davies, Yr oedd yr hen flaenor Mr. Robert Roberts, Pencelli, yn falch iawn o’r blaenoriaid newydd a ddewiswyd y tro hwn, ac yr oeddynt hwythau yn barchus iawn o hono yntau. Pan oedd yn llesg a methedig yn niwedd ei ddyddiau arferai Mr. John Jones droi i mewn i Bencelli ar ei ffordd i’r capel, neu adref o’r capel, i hysbysu iddo am bob symudiad, ac i ymgynghori ag ef ar bob mater o bwys. Bu Mr. Jones yn dra ffyddlon gyda’r canu, gwaith yr Ysgol Sabbothol, ar achos Dirwestol, nid yn unig yn ardal Llidiardau, ond hefyd yn holl ddosbarth Penllyn, ac nid oedd ei ffyddlonach yn holl gylch y Cyfarfod Misol. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, Medi 1875. Gwnaed coffâd am dano yn Nghyfarfod Misol y Parc yn Hydref y flwyddyn hono. Parhaodd Mr. William Davies i wasanaethu yr achos gyda ffyddlondeb cyffelyb hyd ei symudiad i’r Bala i farw, yr hyn a gymerodd le yn mis Mai 1875, ychydig o fisoedd cyn marwolaeth ei gydswyddog yr oeddei galon mor glymedig wrtho.

Yn fuan ar ol dewisiad y ddau frawd uchod, ac yn ystod blynyddoedd olaf oes Dafydd Rolant, Robert Thomas, a Robert Roberts, Pencelli, ymgymerwyd ag adeiladu yr ail gapel. Yr oedd hen gapel Llidiardau, er pob adgofion cysegredig oedd yn nglyn ag ef fel capel hynaf yr ardaloedd, yn un bychan a salw. Helaethwyd ychydig arno yn mhen tuag ugain mlynedd ar ol ei adeiladu. Ond yn y flwyddyn 1860, ymgymerwyd a’i ail adeiladu yn y ffurf ar maint presenol, a thua’r un adeg adeiladwyd ysgoldy gerllaw iddo, lle y buwyd yn cadw ysgol ddyddiol am flynyddoedd hyd nes y caed Ysgol y Bwrdd yn Maesywaen ar gyfer ardaloedd Llidiardau a Thalybont. Y mae yr ail gapel yn un cydmarol eang ac o wneuthuriad cadarn, ond nid mor gyfleus oddimewn ag y gallasai fod. Yn 1900, ail drefnwyd ef yn gwbl oddimewn, a gwnaed ef yn debyg i’r capelau diweddar cyfleus a geir mewn ardaloedd eraill. Sicrheir fod yr hen gapel ar ail gapel yn cael eu hagoryd yn ddiddyled, ac y mae yr haelioni a ddangosir yn y misoedd hyn, yn rhoi sail i obeithio y bydd yr adgyweiriad costus a wneir arno y tro hwn yn cael talu am dano yn fuan.

Cafodd yr achos yn Llidiardau golled drom rhwng 1862 ac 1867, yn marwolaeth y ddau bregethwr hybarch, ar blaenor dylanwadol o Bencelli. Eto yr oedd ysgwyddau Mr. Jones, Llwynrodyn, a Mr. W. Davies yn aros dan yr achos wedi colli yr henafgwyr uchod. Ond pan y symudwyd hwy eu dau yn 1875, un trwy angeu, ar llall trwy newid ei drigfan, yr oedd y golled yn ymddangos yn llawer anhaws ei dwyn, am nad oedd rhai amlwg yn y golwg i gymeryd yr arweiniad yn eu lle. Yn y flwyddyn 1875, pa fodd bynag, dewiswyd Mri. Edward Edwards, Llwynrodyn, ac Edward Pugh, Cynythog. Wedi hyny, yn y flwyddyn 1892, dewiswyd Mr. Daniel Jones, Frongam, ac yn 1894, Mr. John Evans, Bryn newydd, yr hwn ni chafodd ond oes fer i wasanaethu fel blaenor. Yn mhen dwy flynedd wedi hyny, yn y flwyddyn 1896, dewiswyd Mr. John Roberts, Cynythog ganol, ac yn 1899, Mri. R. Rowlands, Gwernbisaig, ac Evan Davies, Pentre. Y pedwar blaenor geir yma yn awr ydynt, Daniel Jones, John Roberts, R. Rowlands, ac E. Davies, Yn yr eglwys hon y dechreuodd y Parch. G. Ceidiog Roberts bregethu, yn 1873. Brodor o Landrillo ydyw Mr. Roberts, ond gan ei fod yn cadw ysgol yn ardal y Llidiardau ar y pryd, ni a gawn fod y Cyfarfod Misol yn Llwyneinion yn Chwefror 1873, yn penodi y Parch. E. Peters a Mr. John Evans, Penbryn, i gymeryd llais eglwys Llidiardau ar ei achos. Wedi myned drwy bob prawf fel pregethwr ieuanc, a gorphen ei dymhor yn yr Athrofa, cafodd alwad i fugeilio eglwys Maentwrog. Brodor o’r ardal hon hefyd yw y Parch. Edward Roberts,* yn awr o Venedocia, Ohio.


Ceir y cofnodiad canlynol yn dwyn perthynas ar Parch. Edward Roberts, yn Nghoinodau Cyfarfod Misol Rhydymeirch, Medi 9, Io, 1878. Dangosodd y cyfarfod ei gymcrydwyaeth o’r hyn a wnaed yn Cynwyd a Llidiardau gydag achos Hugh Edwards ac Edward Roberts, y ddau yn ymgeisydd am y weinidogaeth, a phenderfynwyd iddynt cael eu holi yn mhen ddeufis yn Dinmael, gan y Parch. J. H. Hughes am Swyddau Crist
Dygwyd ef i fyny yn ardal Llidiardau, a dechreuodd bregethu tua’r flwyddyn 1878, yn y Cyfarfod Misol hwn, ond symudodd i America yn fuan, ac yno, yn y flwyddyn 1884, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth.

Er ys mwy na deng mlynedd bellach, y mae yr eglwys hon mewn undeb ag eglwys y Celyn, wedi ymgymeryd a bugeiliaeth eglwysig, ac amryw o wyr ieuainc wedi bod yn olynol yn gofalu am dani. Y cyntaf oedd Mr. J. J. Hughes. Yr ail oedd Mr. Robert Jones o Gyffylliog, yr hwn sydd yn awr yn genhadwr yn Cassia. Wedi hyny bu Mr. Thomas Jones, yn awr o Coedllai, yn bugeilio yr eglwysi hyn am tua thair blynedd. Yn fuan iawn ar ol ei yinadawiad ef, yn 1897, rhoddwyd galwad i Mr. John Rowlands, brodor o Fangor. Erbyn hyn, y mae yr olaf a enwyd wedi symud i fugeilio eglwys y Cysegr yn Arfon, ar eglwysi mewn trafodaeth a gŵr ieuanc arall gyda golwg ar sicrhau ei wasanaeth fel bugail iddynt.

Y mae yr ardal hon wedi ei henill yn lled lwyr i wrarido yr efengyl er ys llawer o flynyddoedd ond nid yw y gwrandawyr wedi eu henill mor llwyr i broffesu ag yn ardal Talybont, ac oherwydd lleihad yn nifer y boblogaeth, nid yw y gynulleidfa mor liosog ag ydoedd ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ond y mae rhif yr aelodau eglwysig yn graddol gynyddu. Yn y flwyddyn 1871, fel y canlyn, yr oedd sefyllfa yr achos :—Gwrandawyr, 218. Cymunwyr, 79. Aelodau yr Ysgol Sabbothol, 146. Y casgliad at y Weinidogaeth, £25/6/2. Yn ol cyfrif am y flwyddyn 1898:— Gwrandawyr, 145. Cymunwyr, 86. Aelodau yr Ysgol Sabbothol, 113. Casgliad at y Weinidogaeth, £32/1/10.

Blaenoriaiad Llidiardau. Dewiswyd.-Bu Farw.
Robert Roberts, Pencelli 1815-1866
Thomas Roberts 1815-
John Roberts, Caerlion
Robert Roberts (ieu.). Pencelli 1833-
Owen Davies 1846-
John Jones, Llwynrodyn, 1857-1875
William Davies (yn byw yn awr yn y Bala) 1857-
Edward Edwards, Llwynrodyn 1875-1895
Edward Pugh, Cynythog 1875-
Evan Parry, Llwynrodyn
Daniel Jones, Frongain 1892-
John Evans Bryn newydd 1894-
John Roberts, Cynythog ganol 1896-
Robert Rowlands, Gwernbisaig 1899-
Evan Davies, Pentre 1899-

Dewiswyd Mr. Parry yn flaenor yn Cwmtirmynach yn 1882, a bu yn gwasanaethu fel blaenor yn Llidiardau am rai blynyddoedd, cyn ymadael o hono o gylch y cyfarfod Misol yn 1896.

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf