Cwmtirmynach

PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - CWMTIRMYNACH

Prin iawn yw y defnyddiau tuag at roi hanes cyflawn am gychwyniad a chynydd yr achos Methodistaidd yn y gymydogaeth eang hon. Crybwyllwyd o’r blaen y byddai y Crynwyr yn arfer ymgynull dros ddau can mlynedd yn ol mewn tai anedd yn nghyrion yr ardal hon. Y mae yn hysbys hefyd fod achos yr Annibynwyr yn Tynybont yn nghwr yr ardal yn hen achos bellach, llawer hynach nag achos rheolaidd y Methodistiaid yn y rhan hon o’r wlad. Adeiladwyd capel yn Tynybont rywbryd rhwng 1770 a 1779, sef yn ystod yr amser yr oedd y Parch. Daniel Gronaw yn weinidog ar eglwysi Annibynwyr y Bala a Thynybont. Y mae genym ddau amgylchiad iw coffau, allant yn niffyg hysbysrwydd mwy pendant daflu peth goleuni ar sefyllfa grefyddol yr ardal hon yn ystod y deugain mlynedd olaf o’r ddeunawfed ganrif, —un yn codi o hanes dyddiau boreuol Dafydd Cadwaladr, ar llall o adroddiad sydd ar gael o gyfarfod gweddio yn Tynybont.

Ganwyd Dafydd Cadwaladr yn y flwyddyn 1752, yn yr Erw Ddinmael, plwyf Llangwm. Pan yn 15 oed, hyny yw yn y flwyddyn 1767, yr oedd yn gwasanaethu yn Garthmeilio. Ar ryw brydhawn Sul, pan oedd y boneddigion oddicartref, daethai llawer o bobl at Blas Garthmeilio i chwareu pêl, a digwyddodd i un gŵr urddasol dori pane o wydr yn un o’r ffenestri, ar bore dranoeth cafodd Dafydd ei anfon i’r Bala i gyrchu gwydrwr iw adgyweirio cyn i’r teulu ddychwelyd adref. Ar y ffordd, digwyddodd iddo daro ar ryw eneth ieuanc, yr hon yn ei hymddiddan ag efa ddywedodd, Yr oedd acw seiat neithiwr yn ein tŷ ni. Seiat, ebe yntau, beth yw hyny? Wel, ebe hithau, pobl yn yn gyfarfod a’u gilydd i ddarllen a gweddio, ac i ymddiddan am bethau crefyddol. Glynai hyn yn ei feddwl rhagllaw, a bu yn hiraethu yn hir am gyfle i fwynhau cyfarfod o’r fath, canys hyd yn hyn ni chlywsai erioed am y cyfryw beth. Ar ol ymadael o Garthmeilio, fe fu am ddwy flynedd yn gwasanaethu yn Nantycyrtiau, o fewn pedair milldir i’r Bala, a milldir neu fwy yn uwch i fyny yn nghyfeiriad Llangwm na’r fan y mae y capel presenol. Ar y cyfrif yr arbedid ei fwyd am y diwrnod, rhoddid caniatad iddo fyned lle y mynai ar y Sabboth; achubai Dafydd y cyfleusdra i fwynhau moddion gras yn y Bala, a mynych iawn y byddai yn ymprydio o foreu hyd hwyr er mwyn y manteision crefyddol. Yr oedd Dafydd Cadwaladr flynyddoedd cyn hyn wedi dysgu darllen trwy graffu ar y llythyrenau a welai ar y defaid. wrth fugeilio, ac wedi cael gafael ar y Bardd Cwsg a Thaith y Pererin, a dysgu y ddau ar ei dafod leferydd nes gallu difyru y cwmniau ar y nosweithau gwau yn y tai ffermydd yn well na neb, trwy adrodd y chwedlau sydd yn y llyfrau hyny. Ond yr oedd wedi clywed William Evans, Fedwarian, yn pregethu cyn dyfod i Nantycyrtiau, a’i feddwl dan argraffiadau crefyddol, ac yn y flwyddyn 1771 y mae yn myned i wasanaethu i’r Fedwarian ac yn ymuno a’r seiat yn y Bala pan yn llanc 19eg oed. Cwestiwn anhawdd ei ateb yn awr yw, yn mha le yr oedd y seiat y cyfeiriai yr eneth ieuanc ati yn ei hymddiddan a Dafydd Cadwaladr yn y flwyddyn 1767 Yr unig ardal iddo fyned trwyddo o Blas Garthmeilio i'r Bala. oedd ardal Cwmtirmynach ond nid oes wybodaeth o ba le yr oedd yr eneth a gyfarfyddodd ar y ffordd‚ yn dyfod. Ond y mae yr ymddiddan yn dwyn i’r amlwg nad oedd seiat yn gyfarfod y gwyddid llawer am dano ar y pryd yn yr amgylchoedd, ac y mae y ffaith ei fod yn myned i’r Bala o Nantycyrtiau yn awgrymu mai ychydig o foddion crefyddol oedd iw cael yn nes na’r Bala yn y blynyddoedd hyny.

Y mae yr amgylchad arall yn nglyn a chyfarfod gweddi a gynhaliwyd yn Tynybont, ac yn dwyn perthynas ag enw Robert Jones Plasdrain, pregethwr o blith y tô cyntaf o bregethwyr a godasant yn Sir Feirionydd. Rhoddir hanes y cyfarfod gweddi yn Methodistiaeth Cymru, Cyf I., tud. 310, er dangos y dylanwadau grymus a deimlid mewn cyfarfodydd gweddiau pan y byddai doniau y gweddiwyr yn fychain, a'u hymadroddion yn ymylu ar fod yn blentynaidd. Rhoddwn ninau ef i lawr yna er mwyn y ffeithiau a geir ynddo, ar casgliadau ellir dynu oddi wrthynt. Ac er mwyn rhyw rai allant ddarllen y llinellau hyn nad ydynt gyfarwydd a daearyddiaeth y fro, rhoddwn eglurhad daearyddol a rydd Awdwr Methodistiaeth Cymru iw ddarllenwyr o flaen yr hanes. Rhwng Bala a Bettwsycoed y gorwedd dau gwm, Cwmtirmynach a Chwmpenaner. Rhwng y ddau y mae mynydd a elwir Cadair Penllyn, ac yn mhen uchaf y cwm cyntaf a enwyd y mae tyddyn o’r enw Defaidty, yr hwn sydd tua brig y cwm, ac yn terfynu ar y mynydd. Wedi i rai brodyr fod yn Ysbytty y boreu Sabboth yn cadw cyfarfod gweddi a chael llewyrchadau hyfryd arno, daethant tua’r hwyr i Dynybont, yn Nghwmtirmynach i gynal cyfarfod cyffelyb. Ar ei weddi, meddai un Robert Siôn Plasdrain, Arglwydd, llanw y cwm yna a’r efengyl, o hyd at y Defaidty. Ar hyn gwaeddodd Thomas Tynybont, Ow, Robin bach, dros Gadair Penllyn i Gwnpenaner hefyd. Yn y dyfyniad hwn yr ydym yn cael darlun neu rhyw gymaint o help i ffurfio darlun yn ein dychymyg o’r ardal mewn cyfnod diweddarach. Y Robert Siôn Plasdrain, yw y pregethwr o’r enw fu yn cynghori ac yn efengylu ar hyd ardaloedd Sir Feirionydd yn fore. Y Thomas Tynybont y crybwyllir ei enw, yw y Thomas Jones y dywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru ei fod yn berchen y tyddyn Tynybont, ac iddo roddi tir i adeiladu capel arno. Y mae yn dra thebyg fod y capel wedi ei adeiladu yr adeg hono, a dyna frodyr crefyddol iw cael yn myned i Ysbytty y bore ac yn dyfod i Dynybont at yr hwyr i gadw cyfarfod gweddi, yr hyn na cheid yn fynych o leiaf pan yr arferai Dafydd Cadwaladr fyned o Nantycyrtiau i’r Bala ar y Suliau, er mwyn cael moddion gras.


Yn ol Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, yr oedd Mr. Job Orton, yn y cyfrif a roddodd i Mr. Josiah Thompson, yn gwneyd rhif y rhai a ymgynullent i Tynybont yn 260, 0nd ar ol cofnodi y ffaith, dywed yr Awdwyr fod yn anhawdd ganddynt gredu eu bod mor liosog. Naturiol yw tybied yr elai amryw o’r ardal hon a chyrion ardaloedd eraill cyfagos, yn achlysurol i Dynybont fel ag i chwyddo rhify gynulleidfa uwchlaw rhif cyffredin. y gwrandawyr.

Bu yr Annibynwyr yn cynal moddion crefyddol am ysbaid mewn cwr arall o’r ardal, sef yn Tynant, yn agos i Nantycyrtiau. Fel hyn y dywed un hysbysydd: Cynhaliai yr Annibynwyr eu gwasanaeth yn Tynant. Yr ydym yn deall nad oedd yr Annibynwyr y pryd hyny yn bleidiol i’r Ysgol Sabbothol, ac ddarfod iddynt ar ol i’r Methodistiaid ddwyn yr Ysgol Sabbothol i mewn roddi i fyny eu haddoliad cyhoeddus yn Nhynant. Ond fel hyn y rhoddir yr hanes yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 tud. 412  Codwyd capel bychan tua diwedd y ganrif ddiweddaf, mewn cysylltiad a Thynybont, ar dir Mr. Price, Rhiwlas, yn Tynant yn nghwmtirinynach. Ni chafwyd prydles ar y tir, ac yr oedd yn rhaid codi y tŷ a chorn simdde arno, fel na meddylri neb wrth fyned heibio, nad tŷ anedd oedd, ac nid oedd pulpud iw gael ei roddi ynddo, oblegid mai yn dŷ ysgol ac yn lle i gynal cyfarfodydd achlysurol y bwriadwyd ef. Ond rhoddwyd pulpud bychan ynddo, ac aeth rhywun prysur i Rhiwlas i hysbysu hyny, ar diwedd fu cloi y lle a throi yr addolwyr allan.


Yr ydym wedi crybwyll yn yr hanes a roisom am ardal Talybont am y seiat a gymerid yn y Pandy, gerllaw Tairfelin, pan y deuai y blaenoriaid o Dalybont iw chadw unwaith yn y pythefnos. Dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol hefyd yn yr ardal oddeutu yr adeg yr oedd Ysgolion Sabbothol yn cael eu sefydlu yn holl amgylchoedd y Bala, sef yn mlynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif, neu flynyddoedd cyntaf y ganrif o’r blaen. Dechreuwyd cadw yr ysgol yn nhŷ Robert Jones, Cooper, gerllaw y fan y saif y capel arno yn awr, sef yn y rhan o’r gymydogaeth a elwir Glanrafon, ac yma y daethpwyd cyn hir i gynal pob moddion. Y gŵr mwyaf blaenllaw gyda’r achos oedd Robert y Cooper, gŵr y tŷ lle y cynhelid y moddion. Dygir tystiolaeth uchel iawn i gymeriad Robert y Cooper, ei fod o ysbryd neillduol o danllyd, ac yn un anghyffredin yn ei ffyddlondeb. Gŵr cyson a ffyddlon iawn heb lawer o allu ganddo, yw geiriau un am dano. Efe, debygem, oedd y blaenor cyntaf a fu ar yr eglwys hon. Yn cydweithio ag ef gyda’r achos, ceir Robert Daniel, Glanrafon, gŵr o dymher arafaidd ac o farn sefydlog, ond heb fod yn flaenor. Un o’r colofnau dan yr achos oedd David Williams y Pandy, neu fel y gelwid ef David Williams y Melinydd. Efe oedd yr ail a ddewiswyd yn flaenor, ac yr oedd yn ddarllenwr mawr ac yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau. Ystyrid ef yn ddyn o ymddiried. Symudodd o’r ardal hon i Felin Meloch cyn diwedd ei oes. Enwir hefyd. Robert Lewis, Tycerrig, fel gŵr o ymddygiad addas a gweithiwr dyfal, er na ddewiswyd ef yn flaenor. Y pedwar hyn, yn benaf, dau o honynt yn swyddogion ar ddau arall heb fod, oeddynt a'u hysgwyddau dan yr achos tra y bu y moddion yn cael eu cynal yn nhŷ Robert y Cooper; a bu yr achos yn cael ei ddwyn yn mlaen yn y tŷ anedd distadl hwnw am dymor maith iawn. Bu lliaws o bregethwyr penaf y sir yn pregethu yn nhŷ Robert y Cooper.

Ond ar ol bod yn cynal moddion am rai degau o flynyddoedd yn y tai anedd a grybwyllwyd —y Pandy, ger Tairfelin, a thŷ Robert

y Cooper, y maent yn symud yn mlaen yn y flwyddyn 1826, ac yn adeiladu capel yn y fan lle y ceir y capel yn awr. Nis gwyddom y

manylion o berthynas i’r brydles a gaed yn yr amser yr adeiladwyd y capel, ond ceir mai hyd y brydles a roddwyd yn 1857, yn mhen. deng mlynedd ar hugain llawn ar ol adeiladu y capel, yw tri ugain mlynedd, ac mai yr ardreth flynyddol yw 5/- Bu cyfodiad y capel hwn yn fantais fawr i lwyddiant yr achos. A chyda'r capel newydd caed yn yr un flwyddyn adfywiad crefyddol grymus yn y gymydogaeth, yr hyn a roes fywyd newydd a sirioldeb i ysbryd y rhai oedd wedi llafurio drwy y blynyddoedd a aethant heibio, ac a barodd hefyd chwanegiad sylweddol at rif yr aelodau. Cynhelid cyfarfodydd i bregethu ac i weddio yn yr holl ardaloedd, a byddai rhyw gyfarfod yn cael ei gynal bron bob nos, a sŵn mawl a gorfoledd iw glywed drwy yr holl ardal. Cynyddodd yr achos gryn lawer yn ystod y diwygiad hwn. Yn mhen tua deuddeng mlynedd, tua’r blynyddoedd 1838 a 1839, caed diwygiad cyffelyb tra bendithiol yn ei ddylanwad. Yn flaenorol iddo, neu yn hytrach fel rhan o hono, disgynodd ysbryd gweddi grymus iawn ar yr holl eglwys yn achos penau teuluoedd yr ardal, ac fel atebiad iw gweddi, cafwyd gweled lliaws o benau teuluoedd yn dychwelyd at Dduw, a chodwyd addoliad teuluaidd bron yn mhob tŷ yn yr ardal. Diwygiad oedd hwn a ddilynodd y deffroad dirwestol a gawsid ychydig o’i flaen. Trwy y diwygiad hwn, cyrhaeddodd rhif yr aelodau 66. Ar ol myned i’r capel rhwng y ddau ddiwygiad crefyddol hyn, dewiswyd Robert Griffith, Bwlch, ac hefyd Hugh Jones, tad Thomas Jones, yn ddiweddar o Gorseddau, yn flaeoriaid. Nid oedd Hugh Jones yn ŵr mor rymus o gorff a meddwl ag ydoedd ei fab a ddaeth ar ei ol i’r swydd, ond y mae ei enw yn beraroglaidd fel un a wnaeth ei ran gyda’r achos yn yr amgylchadau yr oedd ynddynt. Gweddiwr tawel, y cyfrifid ef o’i gydmaru a rhai gweddiwyr tanllyd oedd yn cydoesi ag ef, ond yr oedd yn weddiwr er hyny.

Yr oedd Robert Griffith yn ddyn o ddylanwad yr holl amser y bu byw yn y gymydogaeth. Yr oedd cyn ei droedigaeth yn ardal Maentwrog yn un amlwg iawn mewn annuwioldeb, ond cafodd argyhoeddiad dwys, a throedigaeth amlwg. Daeth yn weddiwr gafaelgar iawn. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, er colled fawr iw deulu ac i’r achos yn Cwmtirmynach. Wedi ei farwolaeth, symudodd y weddw ar plant o Bwlchgraianog i’r Tymawr, Talsarnau, a bu Mrs. Griffith am flynyddoedd yn garedig i’r achos yn yr ardal hono ac y mae un mab o’r teulu hwn, sef Mr. Griffith Griffiths, yn flaenor ffyddlon ar hyn o bryd yn Llanfachreth, ger Dolgellau. Erbyn y flwyddyn 1840, neu yn fuan ar ol hyny, yr oedd dau o’r pedwar a wnaent i fyny y tô cyntaf o flaenoriaid wedi huno. Robert y Cooper mewn henaint teg, a Robert Griffith yn nghanol ei ddyddiau, ac nid oedd ond dau ohonynt yn aros, sef David Williams a Hugh Jones.

Oddeutu yr amser hwn dewiswyd dau frawd i flaenori, na fu eu tymhor fel blaenoriaid yn un maith iawn, sef Hugh Roberts a Cadwaladr Morgan, Penrallt. Dyn cydmarol ieuanc, brodor o Gefnddwysarn, oedd Hugh Roberts, a ddaethai i’r ardal hon i weitho ei waith. Dechreuodd bregethu yn niwedd 1843, a symudodd cyn hir iawn i Groesoswallt, lle y daeth yn adnabyddus fel pregethwr fel y Parch Hugh Roberts, Croesoswallt. Dywedir iddo wasanaethu fel blaenor i’r eglwys hon am lawer o flynyddoedd cyn dechreu pregethu. Yr oedd yn y gymydogaeth yn amser Robert Griffith, ac ystyrid y ddau yn ddynion athrawaidd. Yr oedd Mr. Hugh Roberts yn un gwresog iawn mewn gweddi, yn gystal ag yn un hyddysg yn yr athrawiaeth.

Ffarmwr bychan oedd Cadwaladr Morgan. Gŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac ar brydiau byddai ei weddiau yn nerthol iawn.

Yn hanes Cyfarfod Misol y Bala, a gynhaliwyd Rhagfyr 27, 28, 1842, gwelir fod Robert Edwards, Frongoch, a John Jones, Coedyfoel ucha (Maesygadfa wedi hyny), yn cael eu derbyn yn aelodau o’r Cyfarfod Misol. Dau o amaethwyr mwyaf yr holl ardaloedd oedd y rhai hyn, a chawsant le fel gwyr cyfrifol yn mysg eu brodyr yn y sir. Dangosodd y olaf ei fod o egwyddorion cryfion, pan y rhoes ei bleidlais gyda’r Rhyddfrydwyr yn Etholiad bythgofiadwy 1859. Trwy ei onestrwydd cydwybodol yn hyn o beth, collodd ei ffarm fel amryw eraill, a symudodd i ardal Hirnant yn Sir Drefaldwyn lle y bu farw yn mhen ychydig o flynyddoedd.

Dyma y pedwar a wnaent i fyny yr ail dô o flaenoriaid a fu yn yr eglwys hon. Gwelwn fod yr achos yn y cyfnod hwn yn gryf — nifer yr aelodau rhwng 60 a 70, a dynion mwyaf dylanwadol yr ardal yn flaenoriaid yr eglwys. Fel y gweddai i eglwys a nerth yn perthyn iddi, y mae yn gofalu am foddion addysg i’r plant. Bu Mr. David Williams, pregethwr ieuanc a ddechreuasai bregethu yn Maentwrog, yma yn y cyfnod hwn yn cadw ysgol ddyddiol. Symudodd i Sir Drefaldwyn yn mis Awst, 1843, a daeth yn adnabyddus fel David Williams Llanrhaiadr, ac ar ol ei ddychweliad o America, lle yr ordeiniwyd ef, fel y Parch. D. Williams, Llanfyllin, ac wedi hyny Llanwyddelen.

Y ddau Domos a John Roberts, Tairfelin, oedd y blaenoriaid nesaf a ddewiswyd, sef Thomas Roberts, Nantycyrtiau a Thomas Jones, Tynygors, Gorseddau yn niwedd ei oes. Dewiswyd hwy yn y flwyddyn 1850.


Dyfyniad o Gofnodau Cyfarfod Misol Tymawr, Mawrth 28 a 29, 1850. Ymddiddanwyd a William Davies, Robert Evans a Richard Thomas, Cerrigydruidion; Thomas Roberts, John Roberts a Thomas Jones, wmtirmynach

Robert Jones ac Evan Hughes, Llangwm; a derbyniwyd yr wyth yn aelodau o’r Cyfarfod Misol.


Yr oedd Thomas Roberts, Nantycyrtiau, er na chyfrifid ef yn un galluog, yn un nodedig o ffyddlon ac yn un hynod mewn gweddi. Trwy symudiad y rhai oedd wedi eu dewis o’i flaen o’r ardal, a symudiad yr un a ddewiswyd yr un pryd ag ef am dymhor i gymydogaeth y Gellioedd, daeth llawer o bwysau yr achos arno ef yn y blynyddoedd rhwng 1860 ac 1870. Yr oedd Thomas Jones, a ddewiswyd yr un adeg a Thomas Roberts, yn ŵr o feddwl cryf, a hoffder mawr at dduwinyddiaeth yn ei nodweddu. Bu am dymhor allan o’r gymydogaeth, ond yr oedd wedi dyfod i amlygrwydd yn y rhan gyntaf o’i oes fel swyddog. Yr oedd llawer o wreiddioldeb yn ei feddwl ac yn ei ddull o ddweyd ei feddwl. Nodweddid ei weddiau nid gan wresowgrwydd ei ysbryd yn gymaint a chan feddylgarwch a chyfoeth y mater fyddai ynddynt. Pan y daeth yn ol i’r ardal, yn henafgwr, mewn adeg yr oedd angen am ei gyffelyb, cafodd dderbymad croesawgar i’r lle yr oedd wedi wneyd iddo ei hun flynyddoedd yn gynt. Cymerai y dyddordeb mwyaf yn y cymanfaoedd athrawon a gynhelid rhwng 1876—85. Bu farw yn ngwanwyn 1892

Yn mhen amryw flynyddoedd ar ol y rhai hyn, yn 1869, dewiswyd y ddau frawd Mr. Edward Hughes, Pentre, a Mr. Robert Owen. Symudodd yr olaf yn lled fuan i ardal Talybont, lle y mae yn awr yn gwasanaethu ei swydd. Treuliodd Mr. Ed. Hughes y gweddill o’i oes yn yr ardal, gan wasanaethu yr achos yn ffyddlon. Yr oedd ef yn fab i Mrs. Gaenor Hughes, ac yn ŵyr i William Morgan y Glyn, y coffawyd am danynt o’r blaen. Bu farw yn nechreu Hydref 1871.

Oherwydd symudiadau ac amgylchiadau cyfnewidiol, daeth galwad am i’r eglwys ddewis blaenoriaid yn lled fynych fel yr awn  yn mlaen. Dewiswyd Mr. Robert Jones, Tynddol, a Mr. Robert Roberts Coedyfoel ucha, yr un amser, a buont am dymhor eu harosiad yn yr ardal yn ffyddlon gyda’r gwaith. Yn 1882, dewiswyd Mr. Evan Edwards, Hendre bach, a Mr. E. Parry, Ysgolfeistr. Symudodd yr olaf yn fuan i ardal Llidiardau. Yn y flwyddyn 1888, dewiswyd Mr. Lewis Roberts yn flaenor, ac yn 1892 dewiswyd Mr. Ed. Jones. Y ddau ddiweddaf a ddewiswyd ydynt, Mr. Wm. Williams, Hafodyresgob, a Mr. Robert Hughes, Tycapel, ar pedwar diweddaf hyn yw y rhai y mae yr achos ar eu hysgwyddau yn awr.

Parch Evan PetersWedi rhoi crybwylliad byr fel yna am y blaenoriaid a ddewiswyd yn ystod y triugain mlynedd diweddaf, trown yn ol i gymeryd golwg ar gynydd a phrif symudiadau yr eglwys mewn ystyron eraill. Bu diwygiad nerthol 1859 ac 1860, yn dra bendithiol i’r gymydogaeth hon, fel y bu i gymydogaethau eraill. Bu yn help mawr i’r eglwys i ddal y brofedigaeth chwerw a’i cyfarfu trwy golli dau o’i blaenoriaid parchusaf fel canlyniad yr erledigaeth dost a brofodd amryw o ardaloedd Dwyrain Meirionydd yr adeg hono. Chwythodd y gwynt mor gryf bron yn yr ardal hon ag mewn un ardal. Collodd Mr. Ellis Roberts, Frongoch, ei ffarm, yr hwn a symudasai i’r lle ychydig cyn hyny o ardal Cefnddwysarn, ac ydoedd wedi dyfod yn un o ddynion mwyaf dylanwadol y gymydogaeth. Bu farw pan yr oedd yr arwerthiad yn cymeryd lle ar ei eiddo ar ei ymadawiad o’i ffarm. Gorfodwyd Mr. John Jones i fyned o Faesygadfa, ac yn Sir Drefaldwyn y trefnwyd ei breswylfod am y gweddill byr o’i oes. Cynyddodd rhif yr aelodau hefyd o fewn ychydig i’r hyn ydynt yn bresenol, ac enillwyd corff mawr trigolion yr ardal i broffesu enw Mab Duw. Yn fuan ar ol y diwygiad crefyddol ar erledigaeth gymdeithasol, ymgymerodd y diweddar Barch. Evan Peters a bugeilio yr eglwys hon, ac yn mhen peth amser, daeth eglwys Pantglas dan ei ofal.

Bu Mr. Peters yn fugail ffyddlon a gofalus am yr eglwys hon am-dros bum mlynedd ar hugain. Yn amser ei fugeiliaeth ef, sef yn y flwyddyn 1880, yr adeiladwyd y capel hardd presenol. Yr oedd traul adeiladu y capel hwn tua £1100. Er pan yr adeiladwyd ef, y mae rhifyr aelodau wedi cynyddu tua 40. Yn 1884, rhif yr aelodau oedd 89,.yn awr y maent yn 127.

Yn mhen blwyddyn neu ddwy wedi marwolaeth y Parch. Evan Peters, symudwyd yn mlaen i ddewis olynydd iddo. Syrthiodd y dewisiad ar Mr. Edward Edwards, brodoro Benllwyn, Sir Aberteifi, ond a ddechreuasai bregethu tra yn aros yn Ngwrecsam. Ymgymerodd Mr. Edwards ag arolygiaeth y ddwy eglwys a wnant i fyny y daith yn 1889, ac ymadawodd yn 1899 i gymeryd gofal eglwys Llansantffraid o fewn cylch y Cyfarfod Misol hwn, ar ol deng mlynedd o wasanaeth o’r fath ffyddlonaf yn eglwysi Cwmtirmynach a Plantglas. Yn ystod y deng mlynedd hyn, symudwyd dyled y capel a chynyddodd rhif yr aelodau.

Crybwyllwyd enwau y pregethwyr cyntaf a godasait yn yr ardal hon. Yn nghwr yr ardal hon y mae Plasdrain, lle y trigai Robert Jones, ac yma y dechreuodd Hugh Roberts, Croesoswallt, bregethu, fel y bu i ni adrodd. Ceir enw Edward Jones, Cwmtirmynach, yn rhestr myfyrwyr y Bala am 1854. Mab Tynddol, un o ffermydd yr ardal, ydoedd, a sicrheir ei fod yn efrydydd rhagorol, a’i gyrhaeddiadau mewn rhifyddiaeth yn llawer uwch na'r cyffredin. Bu farw cyn dechreu yn briodol ar waith y weinidogaeth. Brodor o’r ardal hon hefyd yw y Parch. Edward Williams, gweinidog eglwys Seisnig Machynlleth,

Y ddwy chwaer fwyaf hynod y gellir crybwyll eu henwau, heb ddyfod i’r amser presenol, ydynt Dorothy Jones, Coedyfoel, a Gaenor Hughes, Pentre. Hawlir y flaenaf gan yr Annibynwyr fel un o aelodau hynotaf yr eglwys yn Tynybont. Yr oedd yn wraig dra chrefyddol, ac y mae ei henw yn beraroglaidd yn yr holl ardal. Am Gaenor Hughes, yr oedd hi yn Fethodist o’r Methodistiaid, yn weddw David Hughes, Caerfotty, a roddodd dir i adeiladu capel y Glyn arno, ac yn ferch i William Morgan y Glyn, lletywr y Parch. Peter Williams pan y deuai i’r ardal. Da genym fod ei disgynyddion yn cyfranogi i raddau o’i hysbryd. Felly y gwnai ei mab Edward Hughes, a’i merched Mrs. Edwards, Tyisa, Llandderfel, ar ddwy a fu farw yn y Bala; ac y mae ei hwyrion, y diweddar Barch. Robert Edwards, a’i chwiorydd, Mrs. Jones a Mrs. Edmunds, Caernarfon, wedi dangos gofal am yr achos yn nghylch y Cyfarfod Misol, ac yn enwedig yn ardaloedd Penllyn, sydd yn deilwng o goffàd.

Gweinidog presenol yr eglwys yw y Parch. E. G. Jones, brodor o Glynceiriog, yr hwn a ddechreuodd ar ei waith yno yn 1900. Blenoriaid Cwmtirmynach yn nghyda blwyddyn eu dewisiad. Robert Jones, Cooper; David Williams, Pandy; Robert Griffith, Bwlchgraianog; Hugh Jones; Hugh Roberts Croesoswallt, 1840; Cadwaladr Morgan, Penrallt, 1840; Robert Edwards, Frongoch, 1842; John Jones, Coedyfoel, 1842; John Roberts Tairfelin, 1850; Thomas Roberts, Nantycyrtiau, 1850; Thomas Jones, Gorseddau, 1850—1892; Edward Hughes, Pentre, Robert Owen, 1869—1871; Robert Jones, Tynddol; Robert Roberts, Coedyfoel ucha; Evan Edwards, Evan Parry, 1882; Lewis Roberts, 1888; Edward Jones, W. Williams, Robert Hughes, 1892.

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf