Nodynam yr Awdyr

THE STORY OF TWO PARISHES

DOLGELLEY & LLANELLTYD

gan T.P.ELLIS

NODYN AM YR AWDYR

Roedd Thomas Peter ELLIS (1873-1936) yn farnwr yn nhalaith Pwnjab India yn nyddiau yr ymerodraeth. Fe'i ganwyd yn Wrecsam yn fab i Peter Ellis a Mary Lewis. Bu farw ei dad pan oedd T. P. yn fachgen, a symudodd i fyw gyda theulu ei fam yng Nglyn Dyfrdwy. 

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Croesoswallt a Choleg Lincoln Rhydychen. Wedi darfod yn y coleg ymunodd â gwasanaeth sifil yr India. Codwyd ef yn farnwr rhanbarth a sesiwn yn y Pwnjab ac yn ystod cyfnod y rhyfel byd cyntaf bu'n twrnai cyffredinol llywodraeth y Pwnjab. 

Priododd dwywaith. Ei wraig cyntaf oedd Rosetta McAlister, bu hi farw yn 1912. Yr ail wraig oedd Hilda Broadway. Cafodd dau o blant. 

Dychwelodd i Gymru yn 1921 gan ymsefydlu yn Llysymynach, Dolgellau. Cymerodd diddordeb mawr yn hynafiaethau Cymru gan gyhoeddi nifer o lyfrau hanesyddol. Ymysg ei gyhoeddiadau eraill oedd Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages, The First extent of Bromfield and Yale, The Tragedy of Cymmer, The Catholic Martyrs of Wales (Roedd T. P. Ellis yn aelod brwd o'r Eglwys Gatholig) The Welsh Benedictines of the Terror. 

Bu farw ar 7ed Gorffennaf 1936 a mae ei fedd ym mynwent gyhoeddus Dolgellau. 


Alwyn ap Huw, Ebrill 2001