BRYN TYNORIAD

BRYN TYNORIAD

Yna ganwyd Ieuan Gwynedd -  hynaws.
Ynghanol dinodedd;
A'i wylaidd swyn hawliodd sedd
Orielau anfarwoledd. - GWAENFAB.

Cartref Ieuan Gwynedd,-  pa Gymro na theimla ei galon yn cynhesu wrth feddwl am dano? Yn y cartref tlawd ac anghysbell hwnnw y bu mam bryderus yn ceisio dysgu ei Hieuan fach bregethu, ac yn agor i'w feddwl plentynnaidd gynnwys rhyfedd ei Beibl Coch,-  oedd wedi prynu gan Charles o'r Bala ei hun, ac wedi talu am dano bob yn ychydig o'i henillion prin. Pwy aberthodd fwy dros ei wlad na'r bachgen hwnnw, pwy welodd ddyfodol Cymru a threm gliriach, pwy dangosodd brydferthwch bywyd ei gwerin mor ddi-ofn? A wnaeth rhywun fwy mewn oes mor fer a than gymylau mor dduon? Naddo, neb.

Ar fore hyfryd yn yr haf diweddaf, cefais fy hun yng ngorsaf fechan y Bont Newydd, rhyw dair milltir o Ddolgellau. Aeth y trên ymaith, gan adael dim ond meistr yr orsaf a minnau. Ar un ochr yr oedd bryn coediog, yr ochr arall yr oedd yr afon; a phrin yr oedd digon o le i'r ffordd fawr a'r ffordd haearn rhwng yr afon a'r bryn. Ond dros yr afon yr oedd ychydig o gaeau gwastad, a bryn coediog arall y tu hwnt iddynt. Y mae'r dyffryn ymysg y culaf o ddyffrynnoedd Cymru. Ger yr orsaf, dyma bont i groesi afon Wnion. Y mae golygfeydd swynol i'w gweled oddi ar y bont hon,-  mynyddoedd uchel gleision i'w gweled ymhob cyfeiriad dros lwyni o goed, a'r afon risialaidd yn murmur yn ddedwydd rhwng y bryniau sydd fel pe'n ymdyrru ati i edrych ar ei thlysni. Gwlad goediog garegog ydyw hon, y mae'n amlwg, a glynnoedd llawn o ir-gyll a rhedyn.

Ond rhaid peidio aros ar y bont. Dyma ffordd deg, rhwng gwrychoedd cyll, a rhosynnau gwylltion claerwyn fel pe'n gwylio'r teithwyr anaml. Ar ochrau'r ffordd y mae blodau gwylltion lawer, y llysiau mêl tal aroglus, a gwawr felen ar eu gwynder; clychau'r gog welw leision, rhyfeddod i blentyn; a'r bengaled arw, gyda'i thegwch cartrefol. Ie, ar y ffordd deg hon, ac ymysg y blodau hyn, y treuliodd y plentyn Ieuan Gwynedd lawer o ddiwrnodau haf ei blentyndod.

Ond dyma'r Tŷ Croes yn ymyl. Ydyw, y mae yn union fel y darlunia Ieuan ef pan yn hiraethu am ei fam a bore oes. Y mae ei dalcen atom, a'i wyneb gwyngalchog i'r ffordd. Dacw'r dderwen lydan frig ar ei gyfer, dacw'r cae porfa o flaen y drws, dacw'r pistyll bach mor glir â phan gyrchai Catharin Evans ddwfr o honno a phan geisiai Ieuan Gwynedd gydio ynddo pan yn ddwyflwydd oed. "Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a man amaethwyr Cymru," ebe Ieuan am ei fam a'i dad. "Ni buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na'r pistyll gloyw grisialaidd o flaen y drws drwy yr amser." Mewn ychydig funudau croesir y cwm o fryn i fryn,-  ond mor ddyledus ydyw Cymru i'r fangre fach! Yn y bwthyn hwn y bu'r bachgen yn darllen ychydig lyfrau ei dad,-  Grawn Sypiau Canan, Taith y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynhonnau yr Iachawdwriaeth, yr Ysgerbwd Arminaidd, Bardd Cwsg,-  a Beibl Coch ei fam. Dyma'r garreg olchi; oddi ar ei phen y bu'r plentyn yn pregethu i'r dderwen fawr a'r pistyll,-- blaenor ac arweinydd y gan. Ac yn rhywle yn ymyl y mae'r llannerch lle syrthiodd ar ei liniau dan argyhoeddiad i weddïo, llannerch yr ymwelai a hi bob tro y deuai i edrych am ei fam. Yma y datblygodd ei feddwl, dan arweiniad cariadus ei fam; oddi yma yr aeth yn fachgen ieuanc i ymgodymu a holl gyfyngderau myfyriwr tlawd; yma y bu, yn Ionawr, 1849, yn edrych ar wyneb ei fam cyn yr wylnos,-  yn awr heb na gair na deigryn fel y bu. Pell y bo'r dydd yr anghofio Cymru y fam hon a'r mab hwn.

"Faint o ffordd sydd oddi yma i Fryn Tynoriad?" ebe fi wrth wraig oedd yn sefyll gyda dau blentyn wrth y drws. Dywedai fod siwrnai hir i fyny i gyfeiriad pen y Garneddwen, hyd ffordd y Bala. Bu dadl rhyngof a'r bachgen bach am oed Ieuan Gwynedd pan symudodd ei rieni o'r Bryn Tynoriad i'r Tŷ Croes. O'r diwedd dywedai fod ganddo lyfr setlai'r cwestiwn, llyfr oedd ei frawd hynaf, sydd yn gwasanaethu yng Nghwm Hafod Oer, wedi ei yrru iddo. Aeth i'r tŷ, a daeth a rhifyn o Gymru'r Plant yn fuddugoliaethus, i roi taw arnaf.

Cychwynnais hyd ffordd dan y coed tua Bryn Tynoriad. O'm blaen yr oedd Dol Gamedd, ar fryn, yn debycach o bell i dy Elizabethaidd neu fynachlog na dim arall. Oddi yno cefais lwybr troed i lawr y cae a thrwy goedwig fechan i'r ffordd haearn. Cerddais ennyd hyd hon, gan ryfeddu at ddistawrwydd ac unigedd gwaelod y cwm, lle nad oedd prin le i'r afon a'r ffordd. Toc gwelwn feudy megis pe'n edrych arnaf dros ochr rugog y ffordd. Dringais i fyny ato, a gwelais gaeau, yn lle coedwig fel o'r blaen. Dechreuais ddringo i fyny. Yr oedd y distawrwydd yn teyrnasu o hyd, oddigerth fod sw^n carnau meirch carlamus yn dod o'r ffordd islaw. Ond wele wlad fawr boblog yn ymddangos wrth i mi ddringo i fyny, ffermydd laweroedd a beudai, a chynhaeaf gwair prysur. O gwmpas y cylch o ffermydd yr oedd cylch pellach ehangach o fynyddoedd ysgythrog, a gwelwn Gader Idris yn codi'n bigfain i'r niwl tua'r de. Ni fûm mewn lle hyfrytach erioed nag ar ben y banciau hyn. Aberoedd grisialaidd, ffrwythau aeddfed, arogl gwair sych cynhauafus, awel y mynydd ac awel y môr,-  dyma le i'r gwan gryfhau. Ar ein cyfer dacw'r Hengwrt Ucha; a thraw ar fin y mynydd, uwch ei ben, dacw'r Blaenau, cartref Rhys Jones, cynllunydd "Gorchestion Beirdd Cymru." Ymhellach fyth y mae'r Rhobell gawraidd yn edrych i lawr ar y llethrau a'r dyffryn.

Cefais ymgom ddifyr a llawer amaethwr y diwrnod hwnnw. Dywedent fel y byddai pawb ar ei dir ei hun unwaith,-  Pant y Panel, Coed Mwsoglog, Coed y Rhos Lwyd, Maes y Cambren, Brith Fryniau, a llu eraill,-  oll erbyn heddyw wedi eu gwerthu i dirfeddiannwr mawr. Sylwais gymaint yn dlysach oedd yr hen dai na'r tai sydd newydd eu codi; ond nid oedd amser i holi beth oedd y rheswm.

Evan Jones (1820-52) Ieuan Gwynedd, Bryn Tynoriaid, Y BrithdirHeibio llawer cartref dedwydd, a phawb ond y plant a'r cw^n yn prysur gario gwair, cyrhaeddais Esgair Gawr. Yr oedd y cerdded hyd ael y bryniau a thrwy'r coed wedi codi mawr eisiau bwyd arnaf. Cefais lawer gwahoddiad gan y ffermwyr caredig i droi i mewn "i gael tamaid," ond yr oeddwn yn cadw fy hun at y te oedd yn Esgair Gawr. O'r cartref croesawus hwnnw cefais ffordd hyfryd, dros gaeau a than goed, i Fryn Tynoriad. Gwelais y llyn lle y bu ond y dim i Ieuan Gwynedd foddi cyn bod yn ddwy flwydd oed,-  ond anfonodd Rhagluniaeth ryw ffermwr yno mewn pryd. Y mae Bryn Tynoriad yn agos iawn i ben y Garneddwen,-  y mynydd sy'n gwahanu dyffryn y Dyfrdwy oddi wrth ddyffryn yr Wnion. Y mae'n bur neilltuedig, mewn cwm main, a gelltydd coediog bob ochr. Yn awr y mae'r ffordd haearn yn mynd heibio iddo, a gorsaf Drws y Nant ychydig yn nes i lawr. Ond unig a thawel ydyw eto. Y mae dwy aden i'r tŷ, a chanol, y canol yn dy annedd, a'r adenydd yn ysgubor a beudy. Wrth ei gefn y mae coed a ffridd serth y Celffant. O'i flaen y mae cae bryniog dymunol. Oddi ar y cae gwelir yr Wnion fechan islaw, a'r Wenallt goediog ar gyfer. Gwelir agoriad rhwng y mynyddoedd i gyfeiriad y Bala, dros ddraenen y cymerodd rhywun lawer o ofal gyda'i thyfiant.

Ond gadewch i ni fynd i'r tŷ. Y mae ynddo wraig garedig, siaradus, a doniol dros ben,-  Annibynwraig bid sïwr. Awn i fyny gris neu ddwy, a dyna'r gegin ar y de. Llawr tolciog ydyw, wedi ei lorio a cherrig bychain. Yr oedd yna dân braf o dan y simnai fawr, a'r tegell yn berwi ar gyfer y cynhaeafwyr gwair,-  yr oedd y glaw wedi gorchuddio'r fro erbyn hyn, a'r gwair mewn diddosrwydd neu ar y cae.

Ac yma y dysgodd Ieuan Gwynedd gerdded. Nid oedd yn cofio llawer am y lle; ond yr oedd yn cofio'r diwrnod mudo i'r Tŷ Croes, er nad oedd yn ddwyflwydd oed, oherwydd ei fod wedi medru cario "ystol mam" ar draws yr aelwyd. Ac ar yr aelwyd hon y suwyd ef gan ei fam, y magwyd ef gan ei dad, ac y cusanwyd y "bachgen bach" gan ei frawd. Ddangoswyd y "siambr" imi hefyd, yr ochr arall i'r drws, lle ganwyd Ieuan.

Ryw dro bu ef ei hun yn edrych ar fan ei eni. "Amgylchais y tŷ yn ôl ac ymlaen. Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y'm ganesid; ac fel yr oeddwn yn myned ôl a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na theimlais erioed o'r blaen. Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw. Yno ym brys-fedyddiwyd rhag fy marw'n ddifedydd, a chael yr helbul o fy nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith milltir o ffordd o'r lle. Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau, a'r bobl yn disgwyl i ni farw am y cyntaf; ac yno y cyneuwyd ynof y gannwyll yr hon na losga tragwyddoldeb allan. Yno y dechreuaswn fyw, yno y dechreuaswn farw. Yno y dechreuais fy llwybr i'r wybrennau, ac yno y dechreuais fy ffordd i'r bedd."

"Ffordd i'r bedd," a'r diwedd yn y golwg yn ddigon aml, oedd bywyd byr a brau Ieuan Gwynedd.

Ymysg y gwladgarwyr newidiodd wedd meddwl Cymru yn y blynyddoedd diweddaf, nid y lleiaf oedd ef.

Gwnaeth gymaint am fod ei fywyd mor debyg i fywyd ei frodyr, tra yr oedd amcanion y bywyd hwnnw mor anhraethol uwch. Plentyn Cymru oedd ym mhob peth,-  ar y Beibl y cafodd ei fagu, sêl dros ddirwest ddeffrodd ei enaid, awydd angerddol am wybodaeth wnaeth iddo fyrhau ei ddyddiau o fyfyrdod tlawd a gwaith amhrisiadwy.

Dyhead ei fywyd oedd gweled Cymru'n lân ac yn rhydd; yn lân oddi wrth bechod, a'i meddwl yn annibynnol ar bawb ond ar ei Duw. Ond er mor chwerw oedd yn erbyn ei phechodau, ni fedrai oddef i neb ei chamddarlunio a'i gwawdio, fel y dengys ei ysgrifau miniog yn erbyn bradwyr y llyfrau gleision.

Fel ysgrifennydd y gwasanaethodd Gymru orau. Yr oedd ei sêl,-  a'i afiechyd, efallai,-  yn ei gwneud yn chwerw weithiau at ei wrthwynebwyr, ond maddeuir pob gair garw pan gofir am ei lafur llethol gyda'r Adolygydd, a chyda'r Gymraes yn enwedig. Gwelodd mor bwysig oedd merched Cymru; gwyddai y medrent hwy newid y ffasiwn o ddirmygu iaith eu gwlad. Gwelodd fod ar feddwl Cymru eisiau sylfaen o wladgarwch goleuedig, a buasai wedi ysgrifennu llyfr ar hanes Cymru pe tebyg y rhoddasai ei gydwladwyr groeso iddo.

NODYN
Gresyn fod "
Ieuan Gwynedd, ei fywyd a'i lafur " gan Robert Oliver Rees, Dolgellau mor brin. "Llyfr i bobl ieuainc" ydyw; ac y mae'n un o'r llyfrau mwyaf bendithiol y gall bachgen neu eneth ei ddarllen byth. Y sawl a'i meddo, rhodded fawr bris arno.

Hafan

Llyfrau Books

Mynegai'r llyfr

Diiwethaf

Nesaf